Brwydr Cai (Winwaed)

Brwydr Cai
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad15 Tachwedd 655 Edit this on Wikidata
LleoliadCock Beck Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymladdwyd Brwydr Cai (neu Frwydr Gai, neu Frwydr Winwaed) yn 654 rhwng Penda, brenin Mersia, ac Oswy brenin Brynaich (Northumbria), brawd y brenin Oswallt.

Roedd Penda wedi gwneud cynghrair â Chadwallon ap Cadfan, brein Gwynedd, yn erbyn Northumbria. Wedi marwolaeth Cadwallon, gwnaeth gynghrair ag olynydd Cadwallon fel brenin Gwynedd, Cadafael ap Cynfeddw. Roedd ganddo hefyd gynheiriaid o Deira. Gyda'r gelyn gerllaw, ymadawodd Cadafael a'i fyddin yn y nos, gan ennill iddo'i hun y llysenw "Cadafael Cadomedd". Gorchfygwyd Penda a'i ladd.

Dilynwyd Penda fel brenin rhan ddeheuol Mersia gan ei fab Peada, tra bu rhan ogleddol y deyrnas dan reolaeth Northumbria am gyfnod.


Developed by StudentB